Digwyddiadau PALATINE

Mae’r digwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal gan PALATINE gyda’n cymunedau ymarfer ac ar eu cyfer, yn rhan ganolog o’n gwaith.
Rydym yn cynnal gweithdai, seminarau a chynadleddau ar ystod eang o bynciau a themâu sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu disgyblaethau dawns, drama a cherddoriaeth sydd o ddiddordeb i’n cydweithwyr ac/neu sy’n ymwneud â nhw.

Fel arfer, gall cydweithwyr sy’n gweithio mewn addysg uwch yn y DU fynychu digwyddiadau PALATINE yn rhad ac am ddim, ac mae PALATINE fel arfer yn talu cost y digwyddiadau hyn ar gyfer yr adran neu’r sefydliad sy’n ei gynnal.  I bobl y tu allan i AU y DU, rydym fel arfer yn codi £50.00, ond os yw nifer y lleoedd yn brin, rhoddir blaenoriaeth i gydweithwyr AU.

Yn yr adran Digwyddiadau ar y wefan hon (gweler y ddewislen ar y chwith) gallwch weld manylion am ddigwyddiadau PALATINE sydd ar ddod. Mae’r rhestr hon yn datblygu ac yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnig, a’u trafod ac wrth i gynnwys/dyddiadau/lleoliadau gael eu cadarnhau.

Rydym hefyd yn cadw archif o’r holl ddigwyddiadau yr ydym wedi’u cynnal yn y gorffennol, gan gynnwys adroddiadau ar ddigwyddiadau a deunyddiau ac adnoddau cysylltiedig.

Mae’n bwysig i ni eich bod chi hefyd yn gallu cynnig digwyddiad.

 Er mwyn cael gwybodaeth am ein digwyddiadau, neu drafod syniad neu gynnig, cysylltwch â:

 Ralph Brown, Swyddog Prosiectau

 Mae’r tudalennau eraill yn yr adran hon o’n gwefan yn y Saesneg.