Gwobrau Datblygu PALATINE

 

Architecting The Body

Mae PALATINE yn croesawu ceisiadau am Wobrau Datblygu ar unrhyw adeg. Mae cyllid o hyd at £7,500 ar gael i brosiectau sy’n gwella neu sy’n cefnogi dysgu ac addysgu mewn addysg uwch mewn dawns, drama neu gerddoriaeth, a gellir defnyddio’r cyllid y tu hwnt i adrannau a sefydliadau'r ymgeiswyr eu hunain.

Yn 2009-10, croesewir ceisiadau sy’n mynd i’r afael â materion yn y meysydd canlynol yn arbennig, a amlygwyd fel blaenoriaethau gan gyrff ariannu AU y DU:

Caiff y ceisiadau eu dyfarnu gan arbenigwyr allanol er mwyn sicrhau y bydd pob prosiect sy’n cael ei ariannu yn gwneud cyfraniad o ansawdd uchel i’r pwnc ac yn cynnig gwerth am arian.

Darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais, ynghyd â’r meini prawf a ddefnyddir yn y broses adolygu cymheiriaid

I ddysgu am brosiect penodol, ewch i’r rhestr lawn o Wobrau Datblygu PALATINE yn y lle cyntaf. Mae’r rhestr yn cynnwys dolenni i dudalennau unigol ar gyfer pob prosiect, sy’n cynnwys manylion llawn y gwaith ac unrhyw ganlyniadau sydd ar gael. Mae rhestrau ar wahân ar gael hefyd sy’n cynnwys canlyniadau clyweledol y Gwobrau Datblygu ac Adroddiadau am y Gwobrau Datblygu.

Rhestr Gwobrau Datblygu PALATINE

Mae’r tudalennau eraill yn yr adran hon o’n gwefan yn y Saesneg.