Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Canolfan Bwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Dawns, Drama a Cherddoriaeth yw PALATINE (Rhwydwaith Arloesi Dysgu ac Addysgu’r Celfyddydau Perfformio).

Ein swyddogaeth yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau sy’n ymarfer addysg uwch mewn dawns, drama a cherddoriaeth ledled y DU ar arferion cyffredin dysgu ac addysgu da, llwyddiannus ac arloesol. Rydym hefyd yn hyrwyddo ac yn trosglwyddo ymarferion tebyg i wella gweithgareddau dysgu ac addysgu yn sector AU y celfyddydau perfformio yn arbennig, ac i’r gymuned addysg uwch ehangach.

Rydym yn trefnu, cynnal ac yn adrodd ar gynadleddau, seminarau a gweithdai sy’n cynnwys pob agwedd ar ddysgu, addysgu ac asesu yn y celfyddydau perfformio. Caiff y digwyddiadau hyn eu cynnal gan sefydliadau, adrannau a chydweithwyr ledled y wlad, yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr fel arfer. Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau blaenorol yn yr archif digwyddiadau.

water show

Rydym yn ariannu prosiectau addysgol sy’n gwella neu’n cefnogi dawns, drama a cherddoriaeth mewn addysg uwch, drwy gynllun Gwobrau am Ddatblygu PALATINE. Rhennir canlyniadau’r prosiectau yn eang ac maent yn aml yn arwain at ddigwyddiad neu waith datblygu pellach. Rydym hefyd yn ymgymryd â phrosiectau sy’n cael eu hariannu’n allanol ar y cyd â mudiadau megis JISC, QAA, ac ati.

Rydym yn canolbwyntio ein gwaith ar rai materion allweddol mewn addysg uwch, yn enwedig Asesu, Cefnogi Staff Academaidd Newydd ac Ennyn Diddordeb Cyflogwyr. I gefnogi’r rhain a themâu eraill mewn addysg uwch yn y celfyddydau perfformio, rydym yn creu ein hadnoddau ein hunain, ac yn darparu cysylltiadau i adnoddau eraill.

Rydym yn cefnogi ac yn helpu i gynnal cyfres o rwydweithiau oddi mewn i’n prif ddisgyblaethau ac ar eu traws, ac, fel rhan o Rwydwaith Pwnc yr Academi Addysg Uwch, rydym yn cyfrannu at fentrau polisi ar draws yr Academi ac yn genedlaethol, gan ddod â phersbectif y ddisgyblaeth iddynt.

 Llun trwy garedigrwydd Astudiaethau’r Theatr ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Mae PALATINE yn rhan o Rwydwaith Pwnc yr Academi Addysg Uwch

PALATINE, The Great Hall, Lancaster University, Lancaster LA1 4YW
Ffôn: +44 (0) 1524 592614 (Barbara Hargeaves) | palatine@lancaster.ac.uk